Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 6
Mehefin 2023
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13377
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Datganiad gan y Llywydd
Am 13.30, gwnaeth y Llywydd, ar ran y Senedd, ddatganiad yn estyn cydymdeimlad â theulu a chyfeillion yr Arglwydd John Morris, cyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Am 13.32, gwnaeth y Prif Weinidog ddatganiad o gydymdeimlad hefyd.
Datganiad gan y Llywydd
Am 13.35, cyhoeddodd y Llywydd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, bod y Bil Partneriaethau Cymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 wedi cael Cydsyniad Brenhinol ar 24 Mai 2023.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.35
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.37
3 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwella Capasiti drwy Ofal Cymunedol – Ymhellach yn Gyflymach
Dechreuodd yr eitem am 14.53
4 Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Addysg Ddewisol yn y Cartref
Dechreuodd yr eitem am 15.22
5 Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: Ymateb y llywodraeth i ail gam cyd-ddylunio'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy - GOHIRIWYD TAN 11 GORFFENNAF 2023
Gohiriwyd yr eitem hon
6 Datganiad gan Weinidog yr Economi: Datblygu Economaidd yn y Canolbarth
Dechreuodd yr eitem am 16.03
7 Datganiad gan Weinidog yr Economi: Y Sectorau Technoleg a Seiber
Dechreuodd yr eitem am 16.47
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro
Dechreuodd yr eitem am 17.18
NNDM8285 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) er mwyn caniatáu i NNDM8284 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ar 6 Mehefin 2023.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
8 Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2023
Dechreuodd yr eitem am 17.18
NNDM8284 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Mai 2023.
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro
Dechreuodd yr eitem am 17.21
NNDM8287 Mick Antoniw (Pontypridd)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i ddadl ar NNDM8286 gael ei hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 6 Mehefin.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
9 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)
Dechreuodd yr eitem am 17.22
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NNDM8286 Mick Antoniw (Pontypridd)
Cynnig bod Senedd Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio), a nodir yn Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Rhif 5, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Troednodyn:
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Mai, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2
Gellir cael copi o'r Bil ar wefan Senedd y DU:
https://bills.parliament.uk/bills/3340 (Saesneg yn unig)
Dogfennau
Ategol
Llythyr
gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y
Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, 16 Mai
2023
Llythyr
gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad at y Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, 2 Mehefin
2023 (Saesneg yn unig)
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
36 |
53 |
Gwrthodwyd y cynnig.
10 Cyfnod pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 17.44
Daeth y cyfarfod i ben am 17.44
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 7 Mehefin 2023